{"id":118277,"date":"2026-07-29T11:03:25","date_gmt":"2026-07-29T11:03:25","guid":{"rendered":"https:\/\/sebra.cymru\/?page_id=118277"},"modified":"2026-08-04T15:26:46","modified_gmt":"2026-08-04T15:26:46","slug":"118277-2","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sebra.cymru\/en\/118277-2\/","title":{"rendered":"ynys-gwales"},"content":{"rendered":"<p>[et_pb_section fb_built=&#8221;1&#8243; _builder_version=&#8221;4.23.4&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; background_color=&#8221;#64E841&#8243; custom_padding=&#8221;66px||37px||false|false&#8221; locked=&#8221;off&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][et_pb_row _builder_version=&#8221;4.27.7&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; custom_padding=&#8221;24px||24px|0px|true|false&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][et_pb_column type=&#8221;4_4&#8243; _builder_version=&#8221;4.23.4&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][et_pb_text _builder_version=&#8221;4.27.7&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; text_font=&#8221;Clasica Sans Bold|||on|||||&#8221; text_text_color=&#8221;#333F4C&#8221; text_font_size=&#8221;39px&#8221; text_line_height=&#8221;1.1em&#8221; custom_padding=&#8221;34px||||false|false&#8221; text_font_size_tablet=&#8221;64px&#8221; text_font_size_phone=&#8221;41px&#8221; text_font_size_last_edited=&#8221;on|phone&#8221; locked=&#8221;off&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;]<\/p>\n<p><strong>Ynys Gwales yn ennill <\/strong><strong>Gwobr Goffa Daniel Owen<\/strong><\/p>\n<p>[\/et_pb_text][\/et_pb_column][\/et_pb_row][\/et_pb_section][et_pb_section fb_built=&#8221;1&#8243; _builder_version=&#8221;4.23.4&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; locked=&#8221;off&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][et_pb_row column_structure=&#8221;3_5,2_5&#8243; _builder_version=&#8221;4.23.4&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; custom_padding=&#8221;6px||||false|false&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][et_pb_column type=&#8221;3_5&#8243; _builder_version=&#8221;4.23.4&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][et_pb_text _builder_version=&#8221;4.27.7&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; text_font_size=&#8221;16px&#8221; header_2_font=&#8221;Clasica Sans Bold||||||||&#8221; header_2_text_color=&#8221;#333F4C&#8221; header_2_font_size=&#8221;20px&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;]<\/p>\n\n<p><span>Rebecca Thomas o Gaerdydd yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2026 am ei hail nofel i oedolion, <em>Ynys Gwales. <\/em>Cyhoeddodd Rebecca ei nofel gyntaf i oedolion gyda Sebra, <em>Y T\u0175r<\/em>,\u00a0 ym mis Ebrill 2026 ac rydym yn hynod falch o lwyddiant Rebecca. <\/span><\/p>\n<p><span>Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Lleucu Roberts, Llwyd Owen a Meinir Wyn Edwards ac roedd y tri yn barod eu canmoliaeth i\u2019r gwaith:<\/span><\/p>\n<p><span>\u2018Stori sy\u2019n swyno\u2019r darllenydd o\u2019r dudalen gyntaf\u2019 <strong>Lleucu Roberts<\/strong><\/span><\/p>\n<p><span>\u2018Dyma nofel sydd ag un droed ar y ddaear, er bod gweledigaeth yr awdur yn gwneud i\u2019r holl hanes hedfan.\u2019 <strong>Llwyd Owen<\/strong><\/span><\/p>\n<p><span>\u2018Nofel lawn dychymyg sy\u2019n rhoi gwedd newydd ar Ail Gainc y Mabinogi.\u2019 <strong>Meinir Wyn Edwards<\/strong><\/span><\/p>\n<p><span>Aeth criw Sebra ati i holi rhai cwestiynau i Rebecca am ei nofel ac am ei champ: <\/span><\/p>\n<p><strong><span>Sut fyddet ti\u2019n disgrifio <em>Ynys Gwales<\/em>?<\/span><\/strong><\/p>\n<p><span>Nofel am ddinistr y byd naturiol wedi ei hysbrydoli gan Ail Gainc y Mabinogi. Yn y chwedl honno, mae\u2019r saith dyn sy\u2019n goroesi\u2019r lladdfa yn Iwerddon yn cludo pen Bendigeidfran i Ynys Gwales. Dyma baradwys lle gallant anghofio am y rhyfel a\u2019r ffrindiau y maent wedi eu colli. Ond beth yw cost yr anghofio hyn i\u2019r ynys a\u2019i thrigolion? Mae\u2019r nofel yn dilyn hanes Morfudd a Ll\u0177r a\u2019u hymdrechion i amddiffyn eu cartref rhag yr ymwelwyr. <\/span><\/p>\n<p><strong><span>Beth oedd yr ysgogiad i ysgrifennu a sut brofiad oedd y broses?<\/span><\/strong><\/p>\n<p><span>Wnes i benderfynu fy mod am ysgrifennu nofel wedi ei gosod ym myd Ail Gainc y Mabinogi wrth ailymweld \u00e2\u2019r chwedl mewn seminarau gyda myfyrwyr yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn 2022, ond bu tipyn o amser rhwng cael y syniad a gosod pen i bapur gan fy mod i wrthi\u2019n gweithio ar <em>Y T\u0175r <\/em>ar y pryd. Datblygais y syniad yn sylweddol yn dilyn ymweliad ag Ynys Gwales llynedd, a dechreuais ysgrifennu\u2019r nofel o ddifri yn ystod fy nghyfnod fel awdur preswyl ar Ynys Enlli ym mis Awst. Roedd y profiad hwn yn amhrisiadwy wrth geisio mynd o dan groen trigolion Ynys Gwales. <\/span><\/p>\n<p><strong><span>Beth mae ennill y Daniel Owen yn ei olygu i ti fel awdur?<\/span><\/strong><\/p>\n<p><span>Mae\u2019n anodd rhoi mewn geiriau cymaint y mae ennill y Daniel Owen yn ei olygu. Mae\u2019n gystadleuaeth mor arbennig ac wedi esgor ar gymaint o nofelau gwych dros y blynyddoedd gan awduron rwy\u2019n eu hedmygu. Mae\u2019n anodd credu y bydd <em>Ynys Gwales <\/em>yn ymuno \u00e2\u2019r cyfrolau hyn ar y silff lyfrau ac mae\u2019n gyffrous iawn gallu datgelu\u2019r nofel ar \u00f4l gweithio arni yn gyfrinachol am gyhyd! <\/span><\/p>\n<p><\/p>\n<p>[\/et_pb_text][et_pb_text _builder_version=&#8221;4.27.7&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; text_font_size=&#8221;16px&#8221; header_2_font=&#8221;Clasica Sans Bold||||||||&#8221; header_2_text_color=&#8221;#333F4C&#8221; header_2_font_size=&#8221;20px&#8221; background_color=&#8221;#919DA6&#8243; custom_padding=&#8221;22px|41px|22px|31px|false|false&#8221; hover_enabled=&#8221;0&#8243; border_radii=&#8221;on|10px|10px|10px|10px&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221; sticky_enabled=&#8221;0&#8243;]<\/p>\n\n<h2>Ar gael nawr<\/h2>\n<p><span>Os hoffech chi gael copi o <em>Ynys Gwales <\/em>ar eich silff lyfrau<em>, <\/em>ewch i\u2019r siop lyfrau leol i brynu copi neu gallwch chi brynu copi ar wefan Sebra trwy glicio <strong><a href=\"https:\/\/sebra.cymru\/cy\/product\/ynys-gwales\/\">yma<\/a>. <\/strong><\/span><\/p>\n<p><span>Os nad ydych chi wedi darllen <em>Y T\u0175r <\/em>eto, gallwch chi brynu\u2019r dwy nofel Rebecca am \u00a320 trwy glicio <a href=\"https:\/\/sebra.cymru\/cy\/product\/cynnig-arbennig-rebecca-thomas\/\"><strong>yma<\/strong><\/a>.<\/span><\/p>\n<p><\/p>\n<p>[\/et_pb_text][\/et_pb_column][et_pb_column type=&#8221;2_5&#8243; _builder_version=&#8221;4.23.4&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; hover_enabled=&#8221;0&#8243; global_colors_info=&#8221;{}&#8221; sticky_enabled=&#8221;0&#8243;][et_pb_image src=&#8221;https:\/\/sebra.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Llun-Rebecca-Thomas.jpg&#8221; title_text=&#8221;Llun Rebecca Thomas&#8221; _builder_version=&#8221;4.27.7&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; border_radii=&#8221;on|10px|10px|10px|10px&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][\/et_pb_image][et_pb_image src=&#8221;https:\/\/sebra.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Ynys-Enlli-scaled.jpg&#8221; title_text=&#8221;Ynys Enlli&#8221; _builder_version=&#8221;4.27.7&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; border_radii=&#8221;on|10px|10px|10px|10px&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][\/et_pb_image][et_pb_image src=&#8221;https:\/\/sebra.cymru\/wp-content\/uploads\/2026\/07\/Ynys-Gwales-1-scaled.jpg&#8221; title_text=&#8221;Ynys Gwales&#8221; _builder_version=&#8221;4.27.7&#8243; _module_preset=&#8221;default&#8221; border_radii=&#8221;on|10px|10px|10px|10px&#8221; global_colors_info=&#8221;{}&#8221;][\/et_pb_image][\/et_pb_column][\/et_pb_row][\/et_pb_section]<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ynys Gwales yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen Rebecca Thomas o Gaerdydd yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2026 am ei hail nofel i oedolion, Ynys Gwales. Cyhoeddodd Rebecca ei nofel gyntaf i oedolion gyda Sebra, Y T\u0175r,\u00a0 ym mis Ebrill 2026 ac rydym yn hynod falch o lwyddiant Rebecca. Beirniaid y gystadleuaeth eleni [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_et_pb_use_builder":"on","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","footnotes":""},"class_list":["post-118277","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sebra.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/118277","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sebra.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sebra.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sebra.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sebra.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=118277"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/sebra.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/118277\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":118363,"href":"https:\/\/sebra.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/118277\/revisions\/118363"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sebra.cymru\/en\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=118277"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}