Ynys Gwales yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen
Rebecca Thomas o Gaerdydd yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2026 am ei hail nofel i oedolion, Ynys Gwales. Cyhoeddodd Rebecca ei nofel gyntaf i oedolion gyda Sebra, Y Tŵr, ym mis Ebrill 2026 ac rydym yn hynod falch o lwyddiant Rebecca.
Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Lleucu Roberts, Llwyd Owen a Meinir Wyn Edwards ac roedd y tri yn barod eu canmoliaeth i’r gwaith:
‘Stori sy’n swyno’r darllenydd o’r dudalen gyntaf’ Lleucu Roberts
‘Dyma nofel sydd ag un droed ar y ddaear, er bod gweledigaeth yr awdur yn gwneud i’r holl hanes hedfan.’ Llwyd Owen
‘Nofel lawn dychymyg sy’n rhoi gwedd newydd ar Ail Gainc y Mabinogi.’ Meinir Wyn Edwards
Aeth criw Sebra ati i holi rhai cwestiynau i Rebecca am ei nofel ac am ei champ:
Sut fyddet ti’n disgrifio Ynys Gwales?
Nofel am ddinistr y byd naturiol wedi ei hysbrydoli gan Ail Gainc y Mabinogi. Yn y chwedl honno, mae’r saith dyn sy’n goroesi’r lladdfa yn Iwerddon yn cludo pen Bendigeidfran i Ynys Gwales. Dyma baradwys lle gallant anghofio am y rhyfel a’r ffrindiau y maent wedi eu colli. Ond beth yw cost yr anghofio hyn i’r ynys a’i thrigolion? Mae’r nofel yn dilyn hanes Morfudd a Llŷr a’u hymdrechion i amddiffyn eu cartref rhag yr ymwelwyr.
Beth oedd yr ysgogiad i ysgrifennu a sut brofiad oedd y broses?
Wnes i benderfynu fy mod am ysgrifennu nofel wedi ei gosod ym myd Ail Gainc y Mabinogi wrth ailymweld â’r chwedl mewn seminarau gyda myfyrwyr yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn 2022, ond bu tipyn o amser rhwng cael y syniad a gosod pen i bapur gan fy mod i wrthi’n gweithio ar Y Tŵr ar y pryd. Datblygais y syniad yn sylweddol yn dilyn ymweliad ag Ynys Gwales llynedd, a dechreuais ysgrifennu’r nofel o ddifri yn ystod fy nghyfnod fel awdur preswyl ar Ynys Enlli ym mis Awst. Roedd y profiad hwn yn amhrisiadwy wrth geisio mynd o dan groen trigolion Ynys Gwales.
Beth mae ennill y Daniel Owen yn ei olygu i ti fel awdur?
Mae’n anodd rhoi mewn geiriau cymaint y mae ennill y Daniel Owen yn ei olygu. Mae’n gystadleuaeth mor arbennig ac wedi esgor ar gymaint o nofelau gwych dros y blynyddoedd gan awduron rwy’n eu hedmygu. Mae’n anodd credu y bydd Ynys Gwales yn ymuno â’r cyfrolau hyn ar y silff lyfrau ac mae’n gyffrous iawn gallu datgelu’r nofel ar ôl gweithio arni yn gyfrinachol am gyhyd!