Telerau defnyddio

DARLLENWCH Y TELERAU AC AMODAU HYN YN OFALUS CYN DEFNYDDIO’R WEFAN HON

TELERAU DEFNYDDIO’R WEFAN

Mae’r canllaw telerau defnyddio hwn (ynghyd â’r dogfennau y cyfeirir atynt ynddo) yn dweud wrthych pa delerau defnyddio sy’n berthnasol wrth i chi ddefnyddio ein gwefan www.sebra.cymru (ein safle), boed hynny fel gwestai neu ddefnyddiwr cofrestredig. Mae defnyddio ein gwefan yn cynnwys cyrchu, pori, neu gofrestru i ddefnyddio ein gwefan.

Darllenwch y telerau defnyddio hyn yn ofalus cyn i chi ddechrau defnyddio ein gwefan, gan y bydd y rhain yn berthnasol i’ch defnydd o’n gwefan. Rydym yn argymell eich bod yn argraffu copi o hwn er mwyn cyfeirio ato yn y dyfodol.

Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau defnyddio hyn a’ch bod yn cytuno i gydymffurfio â nhw.

Os nad ydych yn cytuno â’r telerau defnyddio hyn, rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan.

TELERAU PERTHNASOL ERAILL

Mae’r telerau defnyddio hyn yn cyfeirio at y telerau ychwanegol canlynol, sydd hefyd yn berthnasol i’ch defnydd o’n gwefan:

  • Ein Polisi Preifatrwydd, sy’n nodi’r telerau rydym yn eu defnyddio wrth brosesu unrhyw ddata personol a gasglwn gennych, neu a ddarparwch i ni. Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cydsynio i brosesu o’r fath ac rydych yn gwarantu bod yr holl ddata a ddarperir gennych yn gywir.
  • Ein Polisi Cwcis, sy’n nodi gwybodaeth am y cwcis ar ein gwefan.

Os byddwch yn prynu nwyddau o’n gwefan, bydd ein telerau ac amodau cyflenwi yn berthnasol i’r gwerthiant.

GWYBODAETH AMDANOM NI

Mae www.sebra.cymru yn safle a weithredir gan Atebol (“Ni”). Rydym ni wedi cofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 04660521 a lleolir ein swyddfa gofrestredig yn Adeiladau’r Fagwyr, Llandre, Aberystwyth, Ceredigion, SY24 5AQ. Ein rhif TAW yw 879 8723 44.

Rydym yn gwmni cyfyngedig.

NEWIDIADAU I’R TELERAU HYN

Gallwn adolygu’r telerau defnyddio hyn ar unrhyw adeg drwy ddiwygio’r dudalen hon. Edrychwch ar y dudalen hon o bryd i’w gilydd i gymryd sylw o unrhyw newidiadau a wnaethom, gan eu bod yn eich rhwymo.

NEWIDIADAU I’N GWEFAN

Efallai y byddwn yn diweddaru ein gwefan o bryd i’w gilydd a gallwn newid y cynnwys ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, nodwch y gallai unrhyw ran o’r cynnwys ar ein gwefan fod wedi dyddio ar unrhyw adeg benodol, ac nid oes rheidrwydd arnom i’w ddiweddaru.

Nid ydym yn gwarantu y bydd ein gwefan, nac unrhyw gynnwys arni, yn rhydd o wallau neu hepgoriadau.

CAEL MYNEDIAD I’N GWEFAN

Mae ein gwefan ar gael yn rhad ac am ddim. Nid ydym yn gwarantu y bydd ein gwefan, nac unrhyw gynnwys arni, bob amser ar gael neu’n ddi-dor. Caniateir mynediad i’n gwefan ar sail dros dro. Gallwn atal, tynnu’n ôl, terfynu neu newid y cyfan neu unrhyw ran o’n gwefan heb rybudd. Ni fyddwn yn atebol i chi os nad yw ein gwefan ar gael ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm.

Chi sy’n gyfrifol am wneud yr holl drefniadau angenrheidiol er mwyn i chi gael mynediad i’n gwefan.

Rydych chi hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod pawb sy’n defnyddio ein gwefan drwy eich cysylltiad â’r rhyngrwyd yn ymwybodol o’r telerau defnyddio hyn a’r telerau ac amodau perthnasol eraill, a’u bod yn cydymffurfio â nhw.

EICH CYFRIF A’CH CYFRINAIR

Os byddwch yn dewis, neu os darperir cod adnabod defnyddiwr, cyfrinair neu unrhyw ddarn arall o wybodaeth i chi fel rhan o’n gweithdrefnau diogelwch, rhaid i chi drin gwybodaeth o’r fath yn gyfrinachol. Ni ddylech ei datgelu i unrhyw drydydd parti.

Mae gennym yr hawl i analluogi unrhyw god adnabod defnyddiwr neu gyfrinair, boed wedi’i ddewis gennych chi neu wedi’i ddyrannu gennym ni, ar unrhyw adeg, os ydych, yn ein barn resymol, wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau’r telerau defnyddio hyn.

Os ydych yn gwybod neu’n amau bod unrhyw un heblaw amdanoch chi yn gwybod eich cod adnabod defnyddiwr neu’ch cyfrinair, rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith.

HAWLIAU EIDDO DEALLUSOL

Ni yw perchennog neu drwyddedai’r holl hawliau eiddo deallusol ar ein gwefan, ac yn y deunydd a gyhoeddir arni. Diogelir y gwaith hwnnw gan gyfreithiau hawlfraint a chytuniadau ledled y byd. Cedwir pob hawl o’r fath.

Gallwch argraffu un copi, a lawrlwytho darnau, o unrhyw dudalen(nau) o’n gwefan at eich defnydd personol a gallwch dynnu sylw eraill o fewn eich sefydliad at gynnwys a bostiwyd ar ein gwefan.

Ni ddylech addasu’r copïau papur neu ddigidol o unrhyw ddeunyddiau rydych wedi’u hargraffu neu eu lawrlwytho mewn unrhyw ffordd, a rhaid i chi beidio â defnyddio unrhyw ddarluniau, ffotograffau, dilyniannau fideo neu sain nac unrhyw graffigwaith ar wahân i unrhyw destun cysylltiedig.

Rhaid cydnabod ein statws (a statws unrhyw gyfranwyr a nodwyd) fel awduron cynnwys ar ein gwefan bob amser. Ni ddylech ddefnyddio unrhyw ran o’r cynnwys ar ein gwefan at ddibenion masnachol heb gael trwydded i wneud hynny gennym ni neu’n trwyddedwyr.

Os byddwch yn argraffu, copïo neu lawrlwytho unrhyw ran o’n gwefan yn groes i’r telerau defnyddio hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio ein gwefan yn dod i ben ar unwaith a rhaid i chi, yn ôl ein dewis ni, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o’r deunyddiau rydych wedi’u gwneud.

DIM DIBYNIAETH AR WYBODAETH

Darperir y cynnwys ar ein gwefan er gwybodaeth gyffredinol yn unig. Ni fwriedir iddo fod yn gyfystyr â chyngor y dylech ddibynnu arno. Rhaid i chi gael cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn cymryd, neu ymatal rhag, unrhyw gamau gweithredu ar sail y cynnwys ar ein gwefan.

Er ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol i ddiweddaru’r wybodaeth ar ein gwefan, nid ydym yn gwneud unrhyw honiadau na gwarantau, boed yn rhai datganedig neu ymhlyg, bod y cynnwys ar ein gwefan yn gywir, yn gyflawn neu’n gyfredol.

CYFYNGU AR EIN HATEBOLRWYDD

Nid oes dim yn y telerau defnyddio hyn sy’n eithrio nac yn cyfyngu ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol sy’n deillio o’n hesgeulustod, na’n twyll neu gamliwio twyllodrus, nac unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio na’i gyfyngu gan gyfraith Lloegr a Chymru.

I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, rydym yn eithrio’r holl amodau, gwarantau, datganiadau neu delerau eraill a all fod yn berthnasol i’n gwefan neu unrhyw gynnwys arni, boed yn ddatganedig neu’n ymhlyg.

Ni fyddwn yn atebol i unrhyw ddefnyddiwr am unrhyw golled neu ddifrod, boed hynny mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod), torri dyletswydd statudol, neu fel arall, hyd yn oed os gellir ei ragweld, sy’n codi yn sgil neu mewn cysylltiad â:

  • defnyddio ein gwefan, neu anallu i’w defnyddio; neu
  • ddefnyddio neu ddibynnu ar unrhyw gynnwys a ddangosir ar ein gwefan. Os ydych yn ddefnyddiwr busnes, nodwch na fyddwn yn atebol, yn benodol, am:
  • golli elw, gwerthiannau, busnes neu refeniw;
  • tarfu ar fusnes;
  • colli arbedion a ragwelir;
  • colli cyfleoedd busnes, ewyllys da neu enw da; neu
  • unrhyw golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol.

Os ydych yn gwsmer, nodwch mai dim ond at ddefnydd domestig a phreifat yr ydym yn darparu ein gwefan. Rydych yn cytuno i beidio â defnyddio ein gwefan at unrhyw ddibenion masnachol neu fusnes, ac nid oes gennym unrhyw atebolrwydd i chi am golli elw, colli busnes, tarfu ar fusnes, na cholli cyfleoedd busnes.

Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan feirws, ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig, neu ddeunydd technolegol niweidiol arall a allai niweidio eich offer cyfrifiadurol, rhaglenni cyfrifiadurol, data neu ddeunydd perchnogol arall oherwydd eich defnydd o’n gwefan neu oherwydd eich bod wedi lawrlwytho unrhyw gynnwys arni, neu ar unrhyw wefan sy’n gysylltiedig â hi.

Nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys gwefannau y ceir dolenni iddynt ar ein gwefan. Ni ddylid dehongli dolenni o’r fath fel cymeradwyaeth gennym ni o’r gwefannau hynny. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a allai godi yn sgil eich defnydd ohonynt.

Bydd cyfyngiadau ac eithriadau atebolrwydd gwahanol yn berthnasol i atebolrwydd sy’n codi o ganlyniad i gyflenwi unrhyw nwyddau i’w defnyddio gennych chi, a fydd yn cael eu nodi yn ein telerau ac amodau cyflenwi.

UWCHLWYTHO CYNNWYS I’N GWEFAN

Ni chaniateir uwchlwytho cynnwys i’n gwefan.

FIRYSAU

Nid ydym yn gwarantu y bydd ein gwefan yn ddiogel nac yn rhydd o fygiau neu feirysau.

Chi sy’n gyfrifol am ffurfweddu eich technoleg gwybodaeth, eich rhaglenni cyfrifiadurol a’ch llwyfan er mwyn cael mynediad i’n gwefan. Dylech ddefnyddio eich meddalwedd diogelu rhag firysau eich hun.

Ni ddylech gamddefnyddio ein gwefan drwy gyflwyno’n fwriadol firysau, meddalwedd ddiwahoddiad, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n dechnolegol niweidiol. Ni ddylech geisio cael mynediad heb awdurdod i’n gwefan, y gweinydd y mae ein gwefan yn cael ei storio arno nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy’n gysylltiedig â’n gwefan. Ni ddylech ymosod ar ein gwefan drwy ymosodiad atal gwasanaeth neu ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig. Drwy dorri’r amod hon, byddech yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn rhoi gwybod i’r awdurdodau gorfodi’r gyfraith perthnasol am unrhyw dramgwydd o’r fath a byddwn yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny drwy ddatgelu eich hunaniaeth iddynt. Os bydd tramgwydd o’r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio ein gwefan yn dod i ben ar unwaith.

CYNNWYS DOLENNI I’N SAFLE

Gallwch gynnwys dolenni i’n hafan, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n deg ac yn gyfreithlon ac nad yw’n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno.

Ni ddylech gynnwys dolen mewn modd sy’n awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu gefnogaeth ar ein rhan lle nad yw hynny’n bodoli.

Ni ddylech gynnwys dolen i’n gwefan mewn unrhyw wefan nad yw’n eiddo i chi.

Ni ddylid fframio ein gwefan ar unrhyw safle arall, ac ni ddylech ychwaith greu dolen i unrhyw ran o’n gwefan ar wahân i’r hafan.

Rydym yn cadw’r hawl i dynnu caniatâd cynnwys dolenni yn ôl heb rybudd.

Rhaid i’r wefan yr ydych yn cynnwys dolen ynddi gydymffurfio ym mhob ffordd â’n safonau cynnwys.

Os hoffech wneud unrhyw ddefnydd o gynnwys ar ein gwefan ar wahân i’r hyn a nodir uchod, cysylltwch ag post@sebra.cymru.

DOLENNI AC ADNODDAU TRYDYDD PARTI AR EIN GWEFAN

Lle mae ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd partïon, darperir y dolenni hyn er gwybodaeth yn unig.

Nid oes gennym reolaeth dros gynnwys y safleoedd neu’r adnoddau hynny.

CYFRAITH BERTHNASOL

Os ydych yn ddefnyddiwr, nodwch fod y canllaw telerau defnyddio hwn, ei bwnc a’i ffurf, yn cael eu rheoli gan gyfraith Lloegr a Chymru. Rydych chi a ninnau ein dau’n cytuno y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth anghyfyngedig. Fodd bynnag, os ydych yn preswylio yng Ngogledd Iwerddon gallwch hefyd ddwyn achos yng Ngogledd Iwerddon, ac os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch hefyd ddwyn achos yn yr Alban.

Os ydych yn fusnes, mae’r canllaw telerau defnyddio hwn, ei bwnc a’i ffurf (ac unrhyw anghydfodau neu hawliadau nad ydynt yn perthyn i gontract) yn cael eu rheoli gan gyfraith Lloegr a Chymru. Mae’r ddau ohonom yn cytuno i awdurdodaeth anghynhwysol llysoedd Cymru a Lloegr.

CYSYLLTU Â NI

I gysylltu â ni, anfonwch e-bost at post@sebra.cymru

Diolch am ymweld â’n gwefan.