
** This content is available in Welsh **
Dyma alw ar awduron newydd i gymryd rhan yng nghystadleuaeth ysgrifennu stori fer Sebra!
Yn dilyn ei llwyddiant y llynedd, rydyn ni’n cynnal cystadleuaeth ysgrifennu stori fer eto eleni. Dyma gystadleuaeth i awduron newydd i gyfansoddi straeon byrion gwreiddiol, dim mwy na 3,000 gair, ar thema ‘Goleuni’ neu ‘Heddwch’.
Rydyn ni eisiau straeon darllenadwy a chyffrous am bynciau cyfoes sy’n trafod byw a bod fel unigolyn yn y Gymru fodern.
Mae’r themâu hyn yn fwriadol eang er mwyn i ti fedru cyflwyno dy stori di heb rwystrau. Rydyn ni eisiau gwaith unigryw a ffres sy’n gwthio’r ffiniau ac a fydd yn ysgogi trafodaethau ehangach.
Beirniad y gystadleuaeth fydd Sioned Erin Hughes. Mae Erin yn awdur o Ben Llŷn. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 am ei chasgliad o straeon byrion, Rhyngom. Hi hefyd oedd golygydd Byw yn fy Nghroen (Y Lolfa) ac Iaith Heb Ffiniau (Carreg Gwalch) ac mae’n awdur y cyfrolau Y Goeden Hud (Carreg Gwalch) ac O’r Rhuddin (Y Lolfa). Mae hi’n gweithio fel cydlynydd i’r Gymdeithas Gerdd Dafod, Barddas.
Bydd tair gwobr ariannol o £200 a chyfle am awr o sesiwn fentora ar-lein gyda’r beirniad yn wobr i’r tri awdur buddugol. Bydd cyfle hefyd i gael dy waith wedi ei gyhoeddi mewn cyfrol o straeon byrion gan wasgnod Sebra, yng nghwmni awduron talentog eraill, yn cynnwys Sioned Erin Hughes.
CER AMDANI
Y dyddiad cau yw dydd Llun 10 Mawrth 2025. Anfon dy gais ar fformat ‘Microsoft Word’ fel atodiad drwy e-bost at post@sebra.cymru. Pob lwc!
TELERAU AC AMODAU
Cyflwyniad
Trwy gystadlu rydych yn cytuno i’r telerau a’r amodau cystadlu canlynol. Cynhelir y gystadleuaeth gan Sebra ar ran Atebol, a chewch gystadlu yn rhad ac am ddim.
Bod yn Gymwys i Gystadlu
Mae’r gystadleuaeth ar agor i ymgeiswyr sydd yn 18 oed neu’n hŷn. Dyma gystadleuaeth i awduron newydd sydd heb gyhoeddi gwaith mewn llyfr o’r blaen. Ni chaniateir i weithwyr Atebol gystadlu, nac ychwaith unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r cwmni. Trwy gystadlu, rydych yn cadarnhau eich bod yn gymwys i gystadlu ac i dderbyn unrhyw wobrau a ddyfernir i chi.
Manylion Cyflwyno
Does dim cyfyngiad ar nifer y darnau y gallwch eu cyflwyno. Rhaid cyflwyno’r holl ddarnau yn ddigidol, fel atodiad Microsoft Word, ar e-bost i: post@sebra.cymru Ni dderbynnir ceisiadau a gyflwynir mewn unrhyw ffordd arall.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 10 Mawrth 2025. Os bydd digwyddiadau y tu hwnt i reolaeth Atebol yn ein gorfodi i ymestyn dyddiad cau’r gystadleuaeth, bydd cyhoeddiad o ran hynny yn cael ei wneud ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol. Ni fyddwn yn derbyn unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad cau a hysbysebir.
Y Wobr
Bydd y tri darn sy’n dod i’r brig yn cael eu cyhoeddi gan Sebra a bydd eu hawduron yn cael £200 yr un.
Nid yw’r wobr yn drosglwyddadwy ac nid oes modd ei chyfnewid.
Rydym yn cadw’r hawl i amnewid y gwobrau am wobrau cyfwerth neu rai mwy gwerthfawr os bydd amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth yn ein gorfodi i wneud hynny.
Mae penderfyniad Atebol ar unrhyw agwedd ar y gystadleuaeth yn derfynol, ac ni fyddwn yn ymwneud ag unrhyw drafodaeth yn ei gylch.
Hawlfraint
Trwy gystadlu, mae pob ymgeisydd yn cadarnhau mai nhw sydd â pherchnogaeth lwyr ar eu cais, a phan fo deunyddiau gan drydydd parti wedi’u cynnwys cadarnheir bod y rhain unai wedi’u clirio’n llwyr neu heb eu diogelu gan hawlfraint neu hawliau eiddo deallusol eraill mwyach. Rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod eu cais yn nodi unrhyw ddeunyddiau trydydd parti a ddefnyddiwyd yn amlwg. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial wrth gyfansoddi’r gwaith.
Diogelu Data a Chyhoeddusrwydd
Rydych yn cytuno y bydd unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei chyflwyno wrth gystadlu yn cael ei defnyddio gan Atebol at ddibenion gweinyddu’r gystadleuaeth ac at ddibenion eraill fel y nodir yn ein Polisi Preifatrwydd.
Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar wefan Atebol ac ar ein cyfryngau cymdeithasol.
Cyfyngu ar Atebolrwydd
Nid yw Atebol yn derbyn atebolrwydd am unrhyw ddifrod, colled, anaf neu siom a allai ddigwydd o ganlyniad i gystadlu neu yn sgil dyfarnu gwobr.
Cyffredinol
Mae Atebol yn cadw’r hawl i ganslo’r gystadleuaeth neu i ddiwygio’r telerau ac amodau hyn, a hynny ar unrhyw adeg a heb roi rhybudd.