CAMU I’R
ANNISGWYL

Beth yw Sebra?

Does dim modd dofi’r Sebra trawiadol a dyma ysbrydolodd enw ein gwasgnod newydd ni. Bydd ein llyfrau’n diddanu, yn herio ac yn dod â safbwynt ffres a chyfoes fydd yn berthnasol yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r streipiau sydd ar gorff pob sebra yn unigryw. Ein nod ninnau yw dod â rhywbeth newydd i ddarllenwyr fydd yn eu hannog i gamu i’r annisgwyl gyda ni.

WYT TI’N BAROD?

Galwad Agored Straeon Traws

ENILLYDD GWOBR GOFFA DANIEL OWEN 2026

Ynys Gwales gan Rebecca Thomas yw enillydd Gwobr Daniel Owen 2026

Ein llyfrau

Rydyn ni’n chwilio am lyfrau ffuglen a ffeithiol i oedolion sy’n cynnig rhywbeth gwahanol i’r arfer. Straeon ac hanesion sydd o ddiddordeb i’r darllenydd yng Nghymru a thu hwnt hefyd. Blas Cymreig y gellir ei werthfawrogi’n rhyngwladol. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn:

  • Nofelau sydd â'r potensial i gael eu haddasu ar gyfer y llwyfan neu'r sgrin.
  • Llyfrau ffeithiol sy'n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau hygyrch. Gallai hyn fod yn iechyd a lles, hamdden, adloniant neu rywbeth hollol newydd.

Ein nod yw helpu ein hawduron i wneud y gorau o unrhyw gyfleoedd masnachol. Rydym hefyd am gefnogi ein siopau llyfrau lleol rhagorol trwy gynhyrchu gwerthwyr gorau.

 

Cymer olwg

Syniad cyffrous?

Wyt ti’n awdur llawn syniadau a hoffai ymuno â theulu egsliwsif Sebra?

Dim ond casgliad dethol o lyfrau sy’n cael eu cyhoeddi gan ein gwasgnod yn flynyddol. Mae hyn yn rhoi cyfle arbennig i ni gydweithio’n agos drwy’r broses greadigol i greu llyfr arbennig gyda’n gilydd. Dyna’n dull ni o weithio.

Rydyn ni’n annog cyflwyniadau gan awduron newydd a phrofiadol sydd â stori unigryw i’w rhannu.

 

CER AMDANI