CAMU I’R
ANNISGWYL

Beth yw Sebra?

Does dim modd dofi’r Sebra trawiadol a dyma anifail ysbryd, (spirit animal), ein gwasgnod newydd ni. Bydd ein llyfrau’n diddanu, yn herio ac yn dod â safbwynt ffres a chyfoes fydd yn berthnasol yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r streipiau sydd ar gorff pob sebra yn unigryw. Ein nod ninnau yw dod â rhywbeth newydd i ddarllenwyr fydd yn eu hannog i gamu i’r annisgwyl gyda ni.

WYT TI’N BAROD?

Ein llyfrau

Rydyn ni’n chwilio am lyfrau ffuglen a ffeithiol i oedolion sy’n cynnig rhywbeth gwahanol i’r arfer. Straeon ac hanesion sydd o ddiddordeb i’r darllenydd yng Nghymru a thu hwnt hefyd. Blas Cymreig y gellir ei werthfawrogi’n rhyngwladol. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn:

  • Nofelau sydd â'r potensial i gael eu haddasu ar gyfer y llwyfan neu'r sgrin.
  • Llyfrau ffeithiol sy'n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau hygyrch. Gallai hyn fod yn iechyd a lles, hamdden, adloniant neu rywbeth hollol newydd.

Ein nod yw helpu ein hawduron i wneud y gorau o unrhyw gyfleoedd masnachol. Rydym hefyd am gefnogi ein siopau llyfrau lleol rhagorol trwy gynhyrchu gwerthwyr gorau.

 

Cymer olwg

Syniad cyffrous?

Wyt ti’n awdur llawn syniadau a hoffai ymuno â theulu egsliwsif Sebra?

Dim ond casgliad dethol o lyfrau sy’n cael eu cyhoeddi gan ein gwasgnod yn flynyddol. Mae hyn yn rhoi cyfle arbennig i ni gydweithio’n agos drwy’r broses greadigol i greu llyfr arbennig gyda’n gilydd. Dyna’n dull ni o weithio.

Rydyn ni’n annog cyflwyniadau gan awduron newydd a phrofiadol sydd â stori unigryw i’w rhannu.

 

CER AMDANI

Ein cyfrolau diweddaraf