Mae gwasgnod Sebra yn galw ar awduron trawsryweddol+ (gan gynnwys pobol anneuaidd, gender non-conforming ac unrhyw un sy’n bodoli o fewn yr ymbarél trawsryweddol) i fod yn rhan o gyfrol gyffrous. Hon fydd y gyfrol gyntaf o’i bath yn y Gymraeg a fydd wedi ei hysgrifennu yn gyfan gwbl gan awduron Traws+.
Os ydych yn awdur profiadol neu yn hollol newydd rydym eisiau clywed gennych chi.
Rydyn ni’n cynnal galwad agored ar gyfer darnau o lenyddiaeth newydd, gwreiddiol dim mwy na 3,000 o eiriau ar unrhyw thema a ffurf o’ch dewis chi. Gall fod yn stori fer, ymson, monolog, neu lythyr, felly croeso i chi fod yn greadigol ac arbrofol!
Rydym hefyd yn gwahodd ceisiadau sy’n ddrafftiau cyntaf, a bydd cyfle i ddatblygu eich gwaith gyda’r golygyddion, Kayley Roberts (nhw) a Leo Drayton (fe/fo), os yw eich cais yn llwyddiannus.
Kayley Roberts (nhw) yw awdur y nofel Lladd Arth (Y Lolfa, 2025) ac maent hefyd yn fardd, gyda’u cerddi wedi eu cyhoeddi gan Y Stamp a Barddas. Maen nhw’n rhan o’r panel sy’n trafod llyfrau ar podlediad Y Clwb Darllen ar Radio Cymru a BBC Sounds. Yn ogystal â hynny maent yn gweithio fel ymarferydd creadigol llawrydd, sy’n cynnwys sgwennu erthygl ffeithiol-creadigol i Inclusive Journalism Cymru, creu libreto fel rhan o rhaglen Tuag Opera, a gweithio fel cyfarwyddydd cynorthwyol ar DYNOLWAITH (Fran Wen/Sherman). Mae Kayley’n hoffi darllen straeon sci-fi, ffantasi, a straeon cyfoes annisgwyl.
Mae Leo Drayton (fe/fo) yn awdur, bardd a dramodydd sydd wedi cyhoeddi ei waith mewn sawl cyfrol gan gynnwys Curiadau (Barddas, 2023) a Room/Ystafell/Phong (Parthian, 2023). Mae ei ffilm fer, Teth (2024) wedi ennill gwobrau megis Ffilm Fer LHDTC+ Gorau yn ŵyl ffilm NYC Downtown, Queer Streifen a Little Venice. Cyrhaeddodd ei ddrama gyntaf DYNOLWAITH (Y Stamp, 2025), a gynhyrchwyd gan Frân Wen a Sherman, rhestr The Stage o 50 drama gorau 2025. Mae Leo yn mwynhau straeon ar unrhyw gyfrwng sy’n llawn emosiwn ac yn herio cysyniadau.
Bydd isafswm o £100 o dâl i bob awdur sy’n cael eu dewis a chyfle i gyhoeddi eu gwaith mewn cyfrol o straeon byrion gan wasgnod Sebra, yng nghwmni awduron Traws+ eraill, yn cynnwys Leo Drayton a Kayley Roberts.
Mae croeso i awduron gyhoeddi o dan ffug enw neu enw dymunol.
Rydym hefyd yn chwilio am artist Trawsryweddol+ i ddylunio clawr y gyfrol. Mi fydd tâl am y gwaith. Gyrrwch neges yn mynegi diddordeb a’ch portffolio atom ar y cyfeiriad isod.
Os oes gennych chi gwestiynau neu bryderon am unrhyw beth yn ymwneud â’r alwad agored hon mi fydd sesiwn holi ac ateb dros Zoom ar nos Lun Mehefin 15 am 7.30pm gyda golygydd Sebra, Gwennnan Evans, Kayley, a Leo. Gallwch ymuno â’r alwad Zoom gyda’r camera a microffon wedi eu diffodd os hoffech fod yn ddienw.
CER AMDANI
Y dyddiad cau yw dydd Llun 29 Mehefin 2026. Anfon dy gais ar fformat ‘Microsoft Word’ fel atodiad drwy e-bost at post@sebra.cymru.
Does ddim angen cynnwys bywgraffiad yn yr e-bost, dim ond enw a rhagenw.
Bydd y gwaith llenyddol a’r gwaith celf gael eu cyflwyno i Kayley a Leo yn ddienw.
Pob lwc!
TELERAU AC AMODAU
Cyflwyniad
Trwy gyflwyno eich gwaith rydych yn cytuno i’r telerau a’r amodau canlynol.
Bod yn Gymwys
Mae’r alwad agored ar agor i ymgeiswyr sydd yn 18 oed neu’n hŷn. Mae croeso i awduron newydd sydd heb gyhoeddi gyflwyno eu gwaith, yn ogystal â awduron profiadol. Peidiwch cyflwyno stori sydd eisoes wedi ei chyhoeddi. Nid yw cyfieithiadau Cymraeg o waith a ysgrifennwyd yn wreiddiol mewn iaith arall yn addas.
Manylion Cyflwyno
Does dim cyfyngiad ar nifer y darnau y gallwch eu cyflwyno. Rhaid cyflwyno’r holl ddarnau yn ddigidol, fel atodiad Microsoft Word, ar e-bost i: post@sebra.cymru Ni ystyrir ceisiadau a gyflwynir mewn unrhyw ffordd arall.
I artistiaid, edrych ar eich arddull fyddwn ni, does ddim angen dylunio clawr ar gyfer yr alwad agored, dim ond cyflwyno esiampl o’ch gwaith er mwyn dangos diddordeb yn y comisiwn.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 29 Mehefin 2026.
Y Tâl
Bydd y straeon sy’n plesio’r golygyddion yn cael eu cyhoeddi gan Sebra a bydd eu hawduron yn cael isafswm tâl o £100 yr un.
Mae penderfyniad Sebra ar unrhyw agwedd ar yr alwad agored yn derfynol, ac ni fyddwn yn ymwneud ag unrhyw drafodaeth yn ei gylch.
Hawlfraint
Mae pob ymgeisydd yn cadarnhau mai nhw sydd â pherchnogaeth lwyr ar eu cais, a phan fo deunyddiau gan drydydd parti wedi’u cynnwys cadarnheir bod y rhain unai wedi’u clirio’n llwyr neu heb eu diogelu gan hawlfraint neu hawliau eiddo deallusol pellach. Rhaid i awduron sicrhau bod eu cais yn nodi unrhyw ddeunyddiau trydydd parti a ddefnyddiwyd yn amlwg. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial wrth gyfansoddi’r gwaith, boed hynny’n waith llenyddol neu’n waith celf.
Diogelu Data a Chyhoeddusrwydd
Rydych yn cytuno y bydd unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei chyflwyno wrth gystadlu yn cael ei defnyddio gan Sebra at ddibenion gweinyddu’r alwad agored ac at ddibenion eraill fel y nodir yn ein Polisi Preifatrwydd.
Bydd enwau’r awduron yn cael eu cyhoeddi ar wefan Sebra ac ar ein cyfryngau cymdeithasol, oni bai eich bod wedi gofyn i gyhoeddi yn ddienw.
Cyfyngu ar Atebolrwydd
Nid yw Sebra yn derbyn atebolrwydd am unrhyw ddifrod, colled, anaf neu siom a allai ddigwydd o ganlyniad i gymryd rhan.
Cyffredinol
Mae Sebra yn cadw’r hawl i ganslo’r alwad agored neu i ddiwygio’r telerau ac amodau hyn, a hynny ar unrhyw adeg a heb roi rhybudd.