Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio adolygiad.
Gwreiddio
£8.99
Casgliad o wyth stori fer sy'n mynd i'r afael â gwahanol agweddau o fyw yng nghefn gwlad Cymru yn yr oes sydd ohoni yw'r gyfrol hon. Lleolir pob stori mewn cymuned wledig, amaethyddol, wrth i'r cymeriadau wynebu pob math o heriau - unigrwydd, colli tir ac etifeddiaeth, y tyndra rhwng yr hen ffordd o fyw a'r angen i symud ymlaen ac arallgyfeirio. Awduron y straeon byrion yw Bethan Gwanas, Elen Davies, Geraint Lewis, Haf Llewelyn, Heiddwen Tomos, John Roberts, Llŷr Titus a Megan Elenid Lewis. O ferch ifanc sy'n dychwelyd adre i helpu adeg wyna, i wraig ddiymhongar a gweithgar sydd newydd golli ei gŵr, cawn bortreadau cofiadwy o gymeriadau sy'n greiddiol i'n cymunedau amaethyddol ni.
Categori Llyfrau • Ffuglen | |
Dimensiynau 128 × 196 mm | |
Dyddiad cyhoeddi 30/10/2023 | |
Iaith Cymraeg | |
Tudalennau 120 | |
Fformat Clawr meddal |
In stock
In stock
Adolygiadau